Blog Ysgol yr Eifl

Friday, September 30, 2005

Heather yn dod (o'r diwedd)



O’r diwedd daeth Heather i’n ysgol ni. Artist ydi Heather ac mae hi wedi gweithio efo ni llawer o weithiau o’r blaen. Dyma rhai o’r murluniau rydym wedi eu gwneud efo hi:








Cyrhaeddodd pan oedd y ddau ahonom ni yn darllen efo Mr Larsen yn dosbarth. ‘Roedd yn dipyn o sioc ei gweld hi yma o’r diwedd.

‘Roedd hi efo’r babanod yn y bore, ac aethant allan ar y cowt i chwilio am sbwriel, ac yna tynnu lluniau ohonynt efo camera digidol.

Yn y p’nawn ar ol cinio roedd hi efo blwyddyn 4 a gwnaethant luniau o bacedi cresion a phacedi siocled. O’r ddiwedd ar ol yr amser chwarae diwethaf roedd hi efo ni sef blwyddyn 3, 5 a 6. Cawsom sgwrs am y pethau drwg sy’n digwydd yn y pentref .

Ar ol cinio death PC Meurig Williams i sgwrsio efo ni am pam mor berygl ydi cyffuriau.

Hywel a Lauren

Sunday, September 25, 2005

Dim Heather

Roeddem i fod i ddechrau gwneud murlun newydd efo Heather heddiw, ond yn anffodus 'doedd hi methu dod am ei bod yn sal. Ta waeth, cawsom beintio'r planedau yn lle gwneud y murluniau. Dyma'r ddau ohonom ni.



Elain a Haydn

Wednesday, September 21, 2005

Addysg Gorfforol ym Mhwllheli

Ar ol cinio dydd Mercher aethom i’r Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli yn lle mynd i Porthmadog. Aethom yna i wneud ymarfer corff. Roedd rhai o’r plant yn gwneud gymasteg, roedd rhai yn dawnsio ac eraill yn chwarae gemau. Gemau oeddem ni yn ei wneud, a chawsom gyfle i chwarae pelrwyd, gan ymarfer taflu’r bel i’n gilydd, a’i thaflu i’r rhwyd.

Elain a Haydn

Friday, September 16, 2005

Setlo i lawr

Mae pawb yn setlo i lawr yn ddel ar ddiwedd yr ail wythnos yn ol yma. Rydym wedi bod yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog i wneud ymarfer corff. Buom yno am tua tri chwarter awr. Bu plant blynyddeoedd rhai plant 4.5.6. yn gwneud gymnasteg efo Mr Larsen, tra bod y gweddill yn dawnsio efo eu hathrawes, Mrs Harris.

Friday, September 09, 2005

Wythnos gyntaf blwyddyn newydd

Agorodd yr ysgol unwaith eto ddydd Llun, a daeth y plant bach o’r ysgol feithrin atom. Roedd mwy nag arfer am ein body n cymryd rhai tair a phedair oed eleni.

Enwau’r plant newydd ydi Owain Hedd, Steffan Wyn , Elliw, Annie, Catrin, Fred, Geraint, Ben ac Callum. Mae yna 2 o plant newydd hyn yn yr ysgol hefyd, eu henwau ydi Chris ac Michela. Mae Nicela yn blwyddyn 3 ac mae ei brawd Christarfer yn flwyddyn 5. Byddant yn mynd i Llangybi i ddysgu Cymraeg wythnos nesaf.

Yn y pnawn am y tro cyntaf mae blwyddyn 3,4,5,6 mewn un dosbarth ac mae yna 30 o blant yn y dosbarth i gyd. Mae hi’n dyn braidd!