Blog Ysgol yr Eifl

Sunday, July 24, 2005

Wythnos olaf y tymor

Llun o'r saith oedd yn gadael - Kirsty, Medi, Jono, Iolo, Tom, Gwern a David. Bydd bwlch ar eu holau.



Mabolgampau'r Ysgol:





Trip Ysgol



Wednesday, July 13, 2005

Chwaraeon y Dalgylch

Aeth plant blwyddyn 3,4,5 a 6 i ysgol Cymerau i chwarae pel-droed a rownderi heddiw.

Dechreuodd y tim pel-droed yn dda yn curo Llangybi o 1-0 gyda Gwern yn rhoi croesiad i’r canol a chwaraewr Llangybi yn rhoi y bel yn ei rwyd ei hun.

Yn y drydedd gem Pentreuchaf oedd y gwrthwynebwyr, a chafwyd buddigoliaeth wych o 7-0. Y sgorwyr oedd Tom gyda thair, Gwern un, Iolo un ac Alun gydag ergyd wych o hanner ffordd. Hefyd roedd gol yn ei rwyd ei hun gan un o chwaraewyr Pentreuchaf.

Enillwyd pob gem yn y rownd ragbrofol (tua saith ohonynt) ac Aeth y tim pel –droed drwodd i’r rownd gyn derfynol, a’r gwrthwynebwyr oedd Llangybi 1. Cafwyd buddugoliaeth o 1-0 gyda Tom yn sgorio’r gol holl bwysig.
enillwyd y gem gyd derfynol. Yn anffodus colli fu ein hanes i Gymerau yn y rownd derfynol. Cymerau aeth a hi o un gol i ddim, ond cafodd Iolo gyfle yn y diwedd ond arbediodd gol geidwad Cymerau yn wych.


Gwnaeth y tim arall yn dda iawn hefyd yn erbyn timau oedd yn hyn na nhw o lawer. Byddant yn dim arbennig o dda mewn blwyddyn neu ddwy.

Gwnaeth y tim rownderi yn dda iawn hefyd. Curodd y tim Llanaelhaearn o 1-0 i ddechrau gyda Kirsty yn cael y rownder. Roedd hynny’n ddigon da i’w rhoi nhw yn y ffeinal.
Tro y tim rownderi yn y ffeinal oedd hi yn gyntaf yn erbyn Cymerau, ond er i ni gael perfformiad da, colli o ddwy rownder i ddim oedd ein hanes.



Gan Iolo a Tom

Tuesday, July 12, 2005

Ymweliad gan y plant llai.

Aeth plant blwyddyn 6 i Ysgol Glan y Mor eto, a daeth y plant fydd yn dechrau yma ym mis Medi acw.

Felly cafodd blynyddoedd 2,3,4 eu symyd i fyny i’n dosbarth ni. Roedd y dosbarth yn llawn achos bod 25 o blant yma, ac mae’r dosbarth yn fach.

Roedd hi’n rhyfedd gweld y babanod yn yr un dosbarth a ni, ond ar ol dipyn o amser daethom i arfer.

Y gwaith cyntaf a gawsom oedd ‘sgwennu dipyn am danom hunain. fel dweud efo pwy rydym yn byw a beth yw ein diddordebau. Yr ail beth a wnaethom oedd lliwiobaneri er mwyn gweld faint o ffyrdd o wneud hynny sydd yno.

Roeddem yn falch o gael gwared o’r holl blant bach erbyn y prynhawn.

Gan Alun a Hywel

Saturday, July 09, 2005

Y Mabolgampau

Heddiw roedd mabolgampau’r ysgol.

Cawsom lawer o rasus. Dyma rai ohonynt: rhedeg, wy ar lwy, ras angylion, taflu pel, taflu picell a llawer mwy. Y rasus olaf oedd pan roedd y timau i gyd erbyn ei gilydd.

Roedd y mamau yn gwerthu cwn poeth a chacenni siocled a diod a raffl abob math o bethau eraill. Roedd yna gastell bownsio ac roedd yna ciw mawr i fynd arno fo.

Y tim a enillodd y darian oedd Elyrnion, gyda’r Eifl yn ail, gyda Hendre yn drydydd a Cheiri druan yn bedwerydd.

Gan Megan a Brodie

Friday, July 01, 2005

Gardd y Mileniwm

Agorwyd Gardd y Mileniwm gan Jean Roberts ac Eirian Roberts ar Fawrth y cyntaf 2000 ar ol i lawer o bobl ddod at ei gilydd i lunio gardd newydd yn yr ysgol.

Bellach mae chwyn wedi tyfu yn yr ardd. Mae rhai plant o’r ysgol wedi bod yn helpu Eirian a Jean chwynu. Mae pethau’n well rwan a does yna ddim llawer o chwyn yno, ond mae yna ychydig o bethau i gwneud o hyd. Roedd plant wedi bod yn tori y blodau ychydig yn ol, ond bellach mae y planhigyn sydd wedi marw wedi cael ei dynnu oddi yno ac mae yna rhai gwell yn eu lle nhw.

Zia a Mared

Daeth Zia a Mared yn ol i'r ysgol - chwe blynedd ar ol gadael.

Mae'r ddwy yn mynd i Goleg Meirion Dwyfor, ac roeddynt yn cael wythnos o brofiad gwaith efo ni. Dyma lun ohonynt. Zia ydi'r un swil.

Ymweliad Miss Glain Hughes

Daeth Miss Glain Hughes i’n hysgol heddiw, Roedd hi wedi dod i roi ychydig o flas ar waith llafar Cymraeg Ysgol Glan y Mor i ni, Cawsom amser da yn trafod y pethau y byddem yn hoffi eu cael yn y pentref.

Roeddem hefyd yn gorfod ateb cwestiynnau yn y ffordd gywir, sef rhoi ateb llawn a siarad yn glir. Yna cynigiodd i Iolo a Jono fynd yn ei Mini Cooper sports glas a gwyn fel joc. Roeddem wedi cwrdd a Miss Glain Hughes o’r blaen pan oeddem yn mynd i edrych ar Ysgol Glan Y Mor ar Mehefin 21. Ond pan rydym ni yn ysgol Glan y Mor mis Medi byddwn ni yn mynd i’w dosbarth yn amlach o lawer. Rydym i gyd yn edrych ymlaen i fynd yno.



Gan Tom a Gwern.