Blog Ysgol yr Eifl

Monday, June 27, 2005

Mabolgampau'r Urdd

Heddiw aeth plant yr Urdd blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 i fabolgampau’r Urdd ym Mwllheli. Cawsom hwyl ofnadwy ym Mwllheli, doedd yna neb yn ffraeo ac roedd yr haul yn gwenu. Roedd plant blwyddyn tri yn gwneud yn eithriadol o dda i feddwl mai eu blwyddyn gyntaf nhw oedd hi.

Roedd pawb yn trio mewn dau neu dri o weithgareddau.

Roedd y tywydd yn fendigedig , ac roedd rhai wedi dod mewn trwsysau (ac yn dyfaru yn bendant.).

. Dim ond un sydd wedi cael y cyfla i fynd i’r sir sef Kirsty, am redeg. Yn anffodus cafodd mabolgampau’r sir ei ohyrio dros dro oherwydd y glaw.

Yn anffodus y wobr olaf gafodd ein tim ras gyfnewid ni, ond roedd y cyfle i gael cymryd rhan yn wych ac wedi`r cwbwl nid ennill sy’n cyfri!

Pob lwc i Kirsty ym mabolgampau’r Sir.

Megan

Rownderi

Rydan wedi bod yn ymarfer rownderi gyda Mrs Harris yr wythnos yma ar gyfer y gystadleuaeth yn erbyn Cymerau, Y Ffor, Llanaelhearn, Llangybi, Abererch, Chwilog, Pentreuchaf a Rhydyclafdy yr wythnos ar ol yr un nesaf.

Y llynedd cymerais ran yn y gystadleuaeth, ond fe es i’n syth allan oherwydd i mi anghofio rhedeg. Ond eleni ar ol hyfforddiant gan Mrs Harris ni fyddaf yn gwneud yr un camgyameriad. Rwyf yn ffyddiog iawn am rowndar y tro yma..Cawsom ddwy neu dair o gemau y llynedd ond ni chawsom fawr o lwyddiant.

Mae bechgyn wedi bod yn gweitho yn galed iawn hefo Mr Glyn hefyd. Maent hwythau yn fywiog iawn ei fod yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth.

Gan Brodie

Wednesday, June 22, 2005

Paid Cyffwrdd - Dwed

Heddiw daeth yna ddyn or enw Mark i son wrthym am pam mor bwysig ydi peidio cyffwrdd mewn cyffiuriau a nodwyddau.

Y frawddeg bwysig oedd Mark yn hail adrodd wrthym oedd PAID CYFFWRDD DWEUD. Beth oedd yn ei olygu oedd os ydym yn gweld nodwyddau, neu gyffuriau nad ydym yn eu perchen, ni ddyliwn eu cyffwrdd, ond eu gadael lonydd a dweud wrth, mam, dad, neu wrth yr athro.

Dyma rai o bethau a ddwedodd oedd yn berygl iawn - nodwyddau,cyffuriau, tabledi a sylweddau. Gwnaeth hefyd ychydig o hyd a lledrith. Roedd yna llun ac dyma ni yn smalio taflu paent at y llyn, a chafodd y llun ei liwio yn berffaith. Hefyd tywalltodd ddwr trwy bapur newydd ar ben Tom, ond heb wlychu ei wallt. Yna agorodd y papur, ei ail blygu a thywallt y dwr yn ol i mewn i’r jwg. Anhygoel!

Gan Alun

Tuesday, June 21, 2005

Diwrnod yn Ysgol Glan y Mor

Aethom ni blant blwyddyn 6 Ysgol yr Eifl Trefor, ar ymweliad i’r ysgol uwchradd sef Ysgol Glan Y Mor heddiw. Y syniad oedd ein bod ni’n cael cyfle i arfer efo’r lle cyn mynd yno go iawn ym mis Medi.

Cododd y bws ni am tua deg munud wedi wyth yn safle’r bws.
Pan gyrhaeddom yr ysgol, y peth cyntaf a wnaethom oedd mynd i’r neuadd at Mrs Menai Jones. Roedd ysgolion eraill yna, sef Ysgol Y Ffor, Cymerau, Chwilog, Rhyd ac Edern.

Y wers gyntaf a gawsom oedd Cymraeg hefo Miss Glain Hughes. Roeddem yn gorfod ysgrifennu tri pharagraff yn disgrifio ein ffrind. Ar ol y wers Gymraeg roedd cyfle i blant cael tost a gwahanol bethau eraill yn ystod yr egwyl.. Ar ol yr egwyl roedd gennym wers gwyddoniaeth gyda Dr Alun Jones. Roeddem yn gorfod rhoi gwahanol diwbiau o bowdwr mewn grwpiau. Wedyn roeddem yn gorfod rhoi dwr yn y tiwbiau a gweld os oedd y powdr yn hydoddi neu beidio.

Ar ol cinio roedd gennym wers technoleg gyda June Parry Lloyd. Gwneud Shortbread oedd ein gorchwyl. Yn y dechrau roeddem yn gorfod cymysgu blawd, menyn a siwgr. Wedyn rhoi y belan yn y tun, a wedyn ei rhoi yn y popty. Tua hanner awr wedyn roedd y Shorbreads yn barod, ond roedd rhaid rhoi siwgr ar ben y Shorbreads. Roedd ein rhai ni yn fendigedig.

Gan Jono a Iolo





Monday, June 20, 2005

Mr Glyn

Heddiw daeth dyn o’r enw Mr Glyn i’n dysgu am fis. Myfyriwr o Brifysgol Bangor ydi Mr Glyn. Mae o wedi dod at blant blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol.

Fy hoff wers ganddo oedd un lle dysgodd bel droed i ni. Ar ddiwedd yr hyfforddiad fe gawson ni gem o bel droed go iawn. Cafodd Mr Glyn ddwy gol. Roedd y gol gyntaf yn ffliwc llwyr o gol oherwydd llithrodd Mr Glyn ac fe tarodd y bel waelod ei droed ac tharrodd y bel y polyn cyn crafu ei ffordd i mewn i’r gol.

Ond roedd yr ail gol yn un wych, aeth Mr Glyn ar bel drwy pawb cyn cicio am y gol. Achubodd Wiliam y bel yn wych gan ei dyrnu i ffwrdd, ond hediodd Mr Glyn y bel ac aeth i mewn heibio Wiliam druan. Gol wych.

Dyma lun o Mr Glyn a fi.

Image Hosted by Free Image Hosting

Gan Hywel

Prynhawn o gemau

Roedd hi`n ddiwrnod ofnadwy o braf heddiw ac yn yn y pnawn cawsom fynd allan i’r awyr iach i chwarae pob math o gemau. Y peth cyntaf a wnes i oedd cyfeiriannu o gwmpas tir yr ysgol gyda Brodie fy ffrind gorau ac unwaith gyda Lauren hefyd.

Yna fe es i jyglo gyda pheli tennis, roedd hyn yn llawer o hwyl hefyd. Doedd dim rhaid i chi jyglo os nad oeddech yn gallu. Gallech geisio taflu’ pel i mewn i’r fasged yn lle hynny.

Yna at yr hwla hwps a chael llawer o hwyl yma eto. Roedd Brodie yn gallu troi tua deuddeg o hwla hwps o gwmpas ei chanol ar unwaith. Roedd pawb yn helpu ei gilydd a chael hwyl fawr yn gweld pwy oedd yn gallu cadw`r hwla hwps am eu canol hiraf,.

Wedyn cefais gem o ‘sgityls’ yn erbyn Molly, ac yna ymunodd Brodie ac roedd Brodie a Molly yn weddol gyfartal ond fi enillodd (mae’n dda gen i ddweud).

Yna cefais gem o denis byr yn erbyn Brodie. Ei phartner hi oedd Liam, a Molly oedd y mhartner i. Er nad ydw i’n gwybod llawer am denis, mwynheais y gem yn ofnadwy. Yn anffodus Brodie a Liam enillodd.

Cawsom chwarae gem nad ydw i yn siwr o’i henw. Y syniad oedd eich bod yn dal cymaint o linynau oedd wedi eu gosod fel cynffonau ar y plant eraill a phosibl, a phwy bynnag oedd gan y mwyaf o linynnau ar ddiwedd y gem oedd yn ennill. Gwych!!.

Braf iawn oedd gweld y plant bach allan yn mwynhau eu hunain hefyd efo eu ‘sgwtyrs’ a’u beiciau.

Yn olaf cyn mynd adref cawsom fynd at y cowt ac yn ymarfer taflu pel rwyd i’r rhwyd. Doedd yna neb yn mynd ar gyfyl y bel sbwng achos ei bod i yn rhy feddal.

Gan Megan

Friday, June 17, 2005

Coed Elernion

Aethom am dro i Goed Elernion heddiw.

Roeddwn i yn edrych ar ol Natalie. Dim ond 6 oed ydi Natalie felly mi roeddwn i yn gorfod edrych ar ei ol.

Cawsom chwilio am lawer o bethau gwahanol fel lliwiau yr enfys a chyfri faint o piga oedd ar y dail. Daeth Harri o hyd i rhyw fath o anifail hefo chwe choes fel chwilen, ond roedd yn gallu mynd o dan y dwr. Cawsom goblyn o hwyl yna yn ystod y prynhawn.

Wedyn aethom yn ol i ysgol trwy y cae trwy llawer iawnn o fwd a dros y afon ac wedyn cawsom picnic, sef caws, resyns, bara ceich a diod oren.

Image Hosted by Free Image Hosting

Gan Brodie

Thursday, June 16, 2005

Hud a lledrith yn yr ysgol

Brynhawn Mercher, Mehefin 15, daeth consuriwr o’r enw Jonny Hay i ddiddori’r plant gyda'i hud a lledrith.

Dyma rai o’r triciau hynod a welsom - tynnodd arian o glust Sion Harri ac hwnnw heb syniad sut aeth y deg ceiniog yno. Llifiodd Gwern yn ei hanner a’i roi yn ol at ei gilydd rhywsut (efallai ei bod yn help bod Gwern yn gweddio trwy’r holl beth).

Tric arall oedd un wnaeth efo Jonathan, pan afaelodd mewn jwg bach o ddwr a rhoi papur deg punt ar y top, a troi y jwg a’i ben i lawr, ac roedd y papur deg punt wedi sticio. Dyma Jonathan yn troi y jwg yn ol i fyny, a tynnu y deg punt o’r top ac roedd y dwr dal ynddo. Rhoddodd Jonny y papur ar dan, wedyn chwythodd ar y tan, ei blygu dair gwaith , ei ail agor, ac roedd yn papur deg punt yn ei ol.

Ar y diwedd dangosodd i blant dosbarthiadau Mrs Harris a Mr Larsen sut i wneud rhai o’r triciau.



Jono a Iolo

Dirgelwch lan y mor.

Heddiw aethom i lan y mor Trefor fel un o’n gweithgareddau wythnos fywiog yn yr ysgol.

Roeddem yn cael gwneud unrhyw beth roeddem eisiau ei wneud, (o fewn rheswm). Penderfynodd plant blwyddyn 5 a 6 wneud dau dwll anferthol. Wedyn penderfynodd rhywun gysylltu’r ddau trwy wneud twnel. Cychwynodd David wneud twll arall wrth ochr un o’r tyllau anferthol. Teimlodd rhywbeth tebyg i ddefnydd yn y tywod. Wedyn gwelodd o zip cot. Dechreuodd pawb ei helpu er mwyn cael gwybod beth oedd o. Felly torrwyd un ochr o un o’r tyllau eraill. Roedd pawb yn helpu er mwyn cael gwybod beth oedd y defnydd. Aeth y twll yn fwy ac yn fwy fel roedd yr amser yn mynd yn ei flaen.

Ar ol dipyn cawsom ddiod, darn o gaws, 2 ddarn o fara ceirch a bocs o resyns yr un. Brysiodd plant blwyddyn 5 a 6 i fwyta oherwydd roeddynt eisiau mynd yn ol at y twll er mwyn gweld beth oedd yno. Pan ddaethom yn ol i’r twll cawsom fraw oherwydd bod y llanw wedi dod i mewn, ac roedd ein tyllau wedi llenwi gyda dwr. Ceisiodd pawb gael gwared o’r dwr ond roedd o’n dod i mewn rhy gyflym. Er ceisio gwneud wal i stopio’r dwr doedd yna ddim pwynt – i mewn ddaeth y llanw a boddi’r tyllau. Roedd rhaid mynd yn ol i’r ysgol heb ddarganfod beth oedd y defnydd.

Medi a Kirsty

Monday, June 13, 2005

Hwyl efo mwd a phaent.

Dydd Llun oedd diwrnod cyntaf ein wythnos fywiog yn yr ysgol. Cawsom bedair gweithgaredd.

Ar brynhawn Llun, gwneud patrwm ar y llawr concrit gyda phaent, roedd hynny yn hwyl fawr, yn beth da iawn iw neud ac aeth yr amser mor gyflym.

Wedyn cawsom wneud lluniau gwahanol gyda sialc ar deils concrit. Cawsom sialc ar hyd ei dwylo ac ar ein dillad. Rhai o’r llyniau oedd pry copyn, afalau, bathodyn yr ysgol, dynion o bob math, ac roedd yna llawer mwy.

Wedyn gwnaethom lun gyda mwd a gwneud cacenni, gan ddefnyddio llawer mwy o fwd y tro hwn. Ach a fi!

Ar ol hynny gwnaethom y pedwerydd gweithgaredd, sef gwneud llun wyneb gyda gwair, brigau,dail a blodau. Roedd hynny yn llawer o hwyl. Roedd hi yn ddiwrnod braf heb smotyn o law. Diwrnod gwerth chweil.

Gan Brodie a Megan

Thursday, June 09, 2005

Llyn Llydaw

Aethom efo plant Ysgol Rhostryfan unwaith eto heddiw. I Lyn Llydaw, hanner ffordd i fyny’r Wyddfa aethom y tro hwn. Gwelson ni llawer o dir ffurfiau, dyma rhai or pethau a welson, afonydd, nentydd, llynoedd, copa, crib, cwm, sgri a chlogwyni. Natur oedd yn gyfrifol am greu y rhain - dwr a rhew fwy na dim arall.



Gwelsom hefyd yr effaith mae pobl wedi ei gael. Gwelsom hen adeiladau lle’r oedd pyllau copr ers talwm, peipan ddwr i greu trydan, ffensus i reoli defaid, y lon ei hun, a chloddiau. Yn rhyfedd gwelsom geir - dau Land Rover yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a bygi mynydd.



Mae llawer o’r planhigion ar yr Wyddfa yn gwahanol i’r rhai y byddwn ni yn eu gweld yma,

Ar ol i ni orffen bwyta ein brechdana aethon i Rhostryfan i gael gem o bel droed ac yn anffodus nid oedd yr canlyniad yn dda cafodd Rhostryfan 3 gol i un gol yn unig gennym ni.

Gan Hywel ac Alun

Wednesday, June 08, 2005

Cyfeiriannu yn Nant Gwrtheyrn

Aeth plant blwyddyn 5 a 6 i gyfeiriannu efo Ysgol Rhostryfan heddiw. Efallai bod rhai ohonoch ddim yn siwr beth yw cyfeiriannu, ras ydi o, ond efo’r ras yma rhaid darllen map a rasio ar yr un pryd. Os ydym yn mynd yn bell bydd angen chwib a chwmpawd arnom hefyd. Felly mae’n rhaid bod yn dda am redeg a darllen map er mwyn ennill.



Mae Nant Gwrtheyrn yn lle bendigedig i gyfeiriannu yno – neu dim ond i fynd am dro. Mae’r lle yn fendigedig oherwydd ei fod mor ddistaw a fod yna lan y mor a choedwig, lle i ddysgu Cymraeg a chaffi Rhys a Meinir. Mae o hefyd yn lle llawn hanesion diddorol.



Gwnaethom lawer o gyfeiriannu yn ystod y prynhawn, ac yn well na hynny roeddym yn fuddigol, gan ennill o 1 pwynt - buddigoliaeth wych. Roedd yn ddiwrnod arbennig o braf dim mymryn o law yn unman, na chwa o wynt na chwmwl yn yr awyr. Roeddem ni yn lwcus i gael diwrnod mor braf.

Gan Megan a Brodie